Pwy yw'r blin Bererin acw?

1,2,3,4,5,6;  1,3,(4,5).
(Dychweliad yr Afradlon)
Pwy yw'r blin Bererin acw
  Welaf yn ymdynnu'n brudd,
Trwy'r anialwch tua'i artref,
  Yn bistyllog wlyb ei rudd?
Mae ei wisg i gyd yn garpiog,
  Y mae newyn yn ei wedd;
Gwelaf nad oes yn trigfannu
  Yn ei fron dufewnol hedd.

Clywch e'n llefain wrtho'i hunan,
  "Dad, nid teilwng mwy wyf fi
'Fod yn fab, ond gwas a fyddaf,
  Os caf fod, o fewn dy dŷ!"
Beth yw'r hyfryd sain nefolaidd,
  Glywaf fry yn entrych nen,
Gan fil miloedd o delynau,
  Yn cyd-seinio uwch fy mhen?

Beth yw'r adlais hyn a glywaf
  Ar beiriannau aur y nef?
"Teithia 'mlaen, Bererin egwan,
  Groeso, groeso tua thref, -
Mae trigolion gwlad goleuni
  Wrth dy wel'd yn llawenhau, -
Y mae gwisg yn barod iti, -
  Daw dy Dad
      i'th gwrdd yn glau.

Dos ymlaen, Bererin egwan,
  Trwy'r diffeithwch dos ymla'n;
Er mor athrist yw dy olwg,
  Try dy alar etto'n gân:
Llygaid Nef sydd ar dy gamrau,
  Teithia 'mlaen, Bererín gwan;
Ronyn etto ffrydiwch, ddagrau,
  Chwi a sychir yn y man."

Pwy a wela'i'n dod â gwisgoedd
  Hardded â goleuni'r wawr, -
Yn cusanu'r crwydryn eiddil, -
  Ar ei wddf yn syrthio i lawr?
Uwch, ac uwch yn awr dyrchafa
  Tannau'r Nef
      eu sain ynghŷd; -
O! a ydyw'th werth di gymmaint,
  F'enaid bach, a wyt mor ddrud!

Bydd llawenydd yn y nefoedd,
  Os o'th lwybrau ffol y ffoi;
Mae, bechadur, iti roeso,
  Os at dŷ dy Dad y doi;
Gâd y cibau a'r gorwagedd,
  Gâd y byd
      a'i ffalsedd ffol,
Cofia lewndid ac ymgeledd
  Tŷ dy Dad, a dere 'nol.
Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846
Gwinllan y Bardd 1831

Tôn [8787D]: Minnesota (Lowell Mason 1790-1872)

gwelir: Dos ymlaen Bererin egwan

(The Return of the Prodigal)
Who is the weary Pilgrim yonder
  I see drawing sadly,
Through the desert towards his home,
  Gushing wet his cheek?
His clothing is all in tatters,
  There is hunger in his countenance;
I see that there is no inner peace
  Dwelling in his breast.

Hear him crying to himself,
  "Father, I am no longer worthy
To be a son, but a servant I will be,
  If I get to be, within thy house!"
What is the delightful, heavenly sound
  I hear up in the vault of the sky,
Of a thousand thousands of harps,
  Sounding together above my head?

What is this echo I hear
  On the golden engines of heaven?
"Journey onward, weak Pilgrim,
  Welcome, welcome towards home, -
The inhabitants of the land of light
  On seeing thee rejoicing, -
There is clothing ready for thee, -
  Thy Father will come
      to meet thee swiftly.

Come onward, weak Pilgrim,
  Through the wilderness come onward;
Despite how sad is thy view,
  Thy mourning will turn again to song:
The eye of Heaven is on thy steps,
  Journey onward, weak Pilgrim;
Stream ye yet a little, tears,
  Ye are to be dried in a while."

Whom do I see coming with garments
  As beautiful as the light of the dawn, -
Kissing the feeble wanderer, -
  On his neck falling down?
Higher, higher now raise
  The chords of Heaven
      their sound together; -
O, is thy worth so much,
  My little soul, art thou so precious!

There will be rejoicing in the heavens,
  If from thy foolish paths thou flee;
There is, sinner, for thee a welcome,
  If to thy Father's house thou comest;
Leave the husks and the futility,
  Leave the world
      and its foolish falsehood,
Remember the abundance and the succour
  Of thy Father's house, and come back.
tr. 2016 Richard B Gillion
 
Who is yonder weary pilgrim
Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953
Sweet Singers of Wales 1889
The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~